Neidio i'r cynnwys

Môl (uned)

Oddi ar Wicipedia
Môl
Enghraifft o:uned sylfaenol SI, uned swm y sylwedd, uned ddeilliadol UCUM, System Ryngwladol o Unedau gydag enw arbennig Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/09b4v edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF21890 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Un o'r unedau sylfaenol SI y System Ryngwladol o Unedau yw'r môl (symbol: mol), a ddefnyddir i fesur swm y sylwedd (swmp y deunydd a ddefnyddir mewn arbrawf, er enghraifft).

Mae un mol yn swmp o union 6.02214076×1023 endid elfennol (tua 602 secstiliwn neu 602 biliwn gwaith triliwn), a all fod yn atomau, moleciwlau, ïonau, parau ïon, neu ronynnau eraill. Nifer y gronynnau mewn mol yw'r rhif Avogadro felly mae'r môl yn uned ddefnyddiol wrth wneud mesuriadau cemegol cymhleth.

Mae un môl yn pwyso'r un faint (mewn gramau) â'r cyfanswm o'r rhifau más o bob atom sydd yn y rhywogaeth. Er enghraifft, mae un môl o sodiwm (Na) yn pwyso 23 gram ac un môl o ddŵr (H2O) yn pwyso 18 gram (2 x 1 am yr atomau hydrogen ac 16 am yr atom ocsigen).

Yr enw

[golygu | golygu cod]

Mae'r enw yn deillio o'r gair Almaeneg Molekulärgewicht ("pwysau moleciwlaidd"). Y cemegydd Wilhelm Ostwald (1853–1932) a fathodd y term, ond roedd y syniad o uned safonol i fesur hyn-a-hyn o ddeunydd wedi cael ei ddefnyddio am o leiaf canrif cyn hynny.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Wilhelm Ostwald, Hand- und Hilfsbuch zur ausführung physiko-chemischer Messungen (Leipzig: 1893), t.119