Rotorua
Gwedd
| Math | dinas |
|---|---|
| Poblogaeth | 54,500, 54,204, 58,500 |
| Sefydlwyd | |
| Gefeilldref/i | Klamath Falls, Beppu, City of Lake Macquarie, Ardal Wuzhong |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Rotorua Lakes District |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 2,614.9 km² |
| Uwch y môr | 280 ±1 metr |
| Gerllaw | Llyn Rotorua |
| Cyfesurynnau | 38.1378°S 176.2514°E |
| Cod post | 3010, 3015 |
![]() | |
Dinas yn Ynys y Gogledd, Seland Newydd yw Rotorua (Maorïeg: [ˌɾɔtɔˈɾʉa]). Mae'r rhan fwyaf o'r ddinas yn Nhalaith Bay of Plenty, ond mae rhan arall y ddinas yn Nhalaith Waikato. Mae'r ddinas ar lannau Llyn Rotorua, un o 18 o lynnoedd gerllaw, ac yn rhan o Ardal Folcanic Taupo[1]. Mae ffynnon boeth Pohutu Geyser yn Nyffryn Daearwresol Whakarewarewa yn codi hyd at 30 medr tua 20 gwaith pob dydd[2].
Daeth twristiaeth i'r ardal yn y 19g oherwydd y Terasau Pinc a Gwyn, nodwedd folcanic ar lannau Llyn Tarawera, ond dinistriwyd y terasau gan ffrwydrad Mynydd Tarawera ym 1886, ond mae ffynhonnau poethion a diwylliant Maori yr ardal yn denu twristiaid hyd at heddiw[3].
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Amgueddfa
- Blue Baths
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Syr Peter Tapsell (1930-2012), gwleidydd
- Alan Duff (g. 1950), nofelydd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Tudalen ddaearwresol ar wefan wefan Rotorua". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-13. Cyrchwyd 2015-05-17.
- ↑ "Tudalen Rotorua ar wefan newzealand.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-17. Cyrchwyd 2015-05-17.
- ↑ "Gwefan canadiantraveller". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-04. Cyrchwyd 2015-05-17.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]
